Dy gariad Iesu sydd yn awr
Wel dyma'r cariad sydd yn awr

1,2,3,(4,5,6,7).
(Cariad Crist,
yr hwn sydd uwchlau gwybodaeth.)

1,2,3,(4,5,6,7).
Dy gariad, Iesu, sydd yn awr,
Yn curo pob cariadau i lawr,
Yn llyngcu enwau gwael y llawr,
  Oll yn ei enw ei hun;
Rhyw fflam angherddol gadarn gref,
O dân ennynydd yn y nef,
TragWyddol gariad ydyw ef,
  Gwnaeth Dduw a ninnau'n un. [WW]

O Arglwydd IOR, anfeidrol yw
Dy gariad mawr at ddynolryw;
Ti drefnaist ffordd i gadw'n fyw.
  Y gwana yn dy law:
Trwy'r gwaed, yn rhad,
    mae'r ffordd yn rhydd
I ganol nef, fy enaid prudd;
O gwyn ei fyd pob perchen ffydd,
  Byw hyfryd ddydd a ddaw.    [WW]

Nid oes ond f'Arglwydd mawr ei ddawn
A leinw f'enaid bach yn llawn;
Ni's gallwn gynal mwy pe cawn,
  Mae ef yn ddigon mawr:
Digonedd pob digonedd yw,
Dy hyfryd bresenoldeb gwiw,
Yn angau ceidw hyn fi'n fyw,
  A boddlon wyf fi'n awr.     [WW]

Wel, dyma fy Iachawdwr mawr,
Am dano caned nef a llawr,
Pa dafod ddichon dewi'n awr,
  Sy'n profi'i werthfawr hedd?
Digonedd pob digonedd yw,
Glendid a thegwch dynol ryw,
Bywyd a nerth fy enaid byw,
  Fy Nuw tu draw i'r bedd.    [MR]

Pan ymddattodo'r tŷ o bridd
A'm henaid i ddiengu'n rhydd,
O'r holl gadwynau mawrion sydd
  Yn dal yn awr yn dynn:
Câf deimlo pleser uwch y rhod,
Na ddaeth i galon dyn erio'd,
I feddwl nac i greda fod,
  Y fath fwynhâd a hyn.       [WW]

Mae'r dyddiau hir i lawenhâu,
O awr i awr yn agosâu,
Fe dderfydd hyn o fywyd brau,
  Dihanga i'm dedwydd nyth;
Lle ni ddaw pechod, byd, na chnawd,
I aflonyddu f'enaid tlawd,
Y'ngwedd f'anwylaf
    hynaf frawd,
  Câf ymddigrifo byth.        [MR]

Myfyrio am fyn'd sydd felys iawn,
I'r pur ardaloedd hyfryd llawn;
Mae f'enaid am
    gyn'fino ei ddawn,
  I chwareu ei aden glir;
Fel pe ba'i am auturio'n hŷ
Trwy ganol y cymmylau frŷ,
A neidio i mewn i blith y llu,
  Lle mae'r Messïa gwir.      [MR]

              - - - - -

Wel dyma'r cariad sydd yn awr,
Yn curo pob cariadau i lawr,
Yn llyncu enwau gwael y llawr,
  Oll yn ei enw ei hun:
O fflam angerddol gadarn gref!
O dân ennynwyd yn y nef,
Trag'wyddol gariad ydyw ef,
  Wnaeth Dduw a ninau'n un.   [WW]

Nid oes ond f'Arglwydd mawr ei ddawn,
A leinw f'enaid bach yn llawn,
Nis gallwn ddala mwy pe cawn,
  Mae ef yn ddigon mawr:
A digon, digon, digon yw,
Dy hyfryd bresennoldeb gwiw,
Yn angeu ceidw hyn fi'n fyw,
  A boddlon wyf yn awr.       [WW]

Wel ffowch ar ffrwst bleserau i gyd,
Diflenwch oll wrthddrychau'r byd,
Na bo'ch gael effaith ar fy mryd,
  I'm dwyn oddiwrth fy Nuw;
Doed tân a diluw yn gytun,
Aed dwr a daear fawr yn un,
Mi fyddaf yr hapusaf ddyn,
  Mae'm Iesu etto yn fyw.     [WW]

             - - - - -

Wel dyma'r cariad sydd yn awr
Yn curo pob cariadau i lawr, -
Yn llyncu enwau gwael y llawr,
  Oll yn ei enw i hun:
Rhyw fflam, angerddol, gadarn, gref,
O dân enynodd yn y nef,
Tragwyddol gariad ydyw ef;
  Gwnaeth Dduw a minau'n un.  [WW]

Rhaid i mi gael rhyw faint o'r grawn
Sy'n werthfawr ac yn felus iawn,
Yn tarddu o'r winwydden lawn
  A wasgwyd ar y groes;
'Does dim a ddeil fy ysbryd gwan,
I ddringo'r creigiau serth i'r lan,
Ond teimlo i mi brofi rhan
  O'r ddwyfol farwol loes.    [WW]
WW: William Williams 1717-91
MR: Morgan Rhys 1716-79

Tonau [8886D]:
Arvon (<1875)
Beulah (alaw Gymreig)
  Onesimus (T Jones, Ty'nyffordd, Bala.)

gwelir:
  Nid oes ond f'Arglwydd mawr ei ddawn
  Nid yw y ddaear fawr (e)i gyd
  O Arglwydd Ior anfeidrol yw
  Pa beth a wnaf fi yma'n byw?
  Pan collo gwellt y maes eu dawn
  Pan ymddattodo'r tŷ o bridd
  'Rwy' bron a hollol lwfrhâu
  Yn mhlith plant dynion ni cheir un

(The love of Christ,
which is above understanding.)

 
Thy love, Jesus is now,
Beating every love down,
Swallowing the base names of the earth,
  All in his own name;
Some passionate, firm, strong flame,
From the flame ignited in heaven,
Eternal love it is,
  It made God and us one.

O Sovereign Lord, immeasurable is
Thy great love to humankind;
Thou didst ordain a way to keep alive.
  The weakest in thy hand:
Through the blood, freely,
    the way is open
To the centre of heaven, my sad soul;
O blessed is every possessor of faith,
  To live on the delightful day to come.

There is only my Lord of great ability
Who fills my little soul fully;
I could not hold any more if I had it,
  He is greatly sufficient:
The sufficency of every sufficiency is,
Thy delightful, worthy presence,
In death this will keep me alive,
  And satisfied am I now.

See, here is my great Saviour,
About him let heaven and earth sing,
What tongue can keep silent now,
  Which is experiencing his precious peace?
The sufficiency of every sufficiecy he is,
The purity and fairness of human kind,
The life and strength of my living soul,
  My God beyond the grave.

When the house of soil falls apart
And my soul escapes readily,
From all the great chains which are
  Holding now tightly:
I will get to feel pleasure above the sky,
That it never yet came into a man's heart,
To think or to believe that there be
  Such enjoyment as this.

The long days to rejoice,
From hour to hour are drawing near,
This fragile life will pass away,
  I will escape to my happy nest;
Where no sin, world, or flesh will come,
To sadden my poor soul,
In the presence of my dearest,
    oldest brother,
  I will get to take delight forever.

Meditating on going is very sweet,
To the pure regions fully delightful;
My soul wants to become
    acquainted with its gift,
  To play its clear wing;
As if it were wanting to venture boldly
Through the centre of the clouds above,
And leap into the midst of the host,
  Where the true Messiah is.

                - - - - -

See, here is the love which is now,
Beating all loves down,
Swallowing the base names of the earth,
  All in his own name:
O passionate, firm, strong flame!
Of fire ignited in heaven,
Eternal love it is,
  That made God and us as one.

Only my Lord with his great talent,
Shall fill my little soul fully,
I could not pay more if I were allowed,
  He is a great sufficiency:
And sufficient, sufficient, sufficient is,
Thy delightful, worthy presence,
In death this will keep my alive,
  And satisfied am I now.

Now flee in haste, all ye pleasures,
Vanish, all ye objects of the world,
That ye have no effect on my mind,
  To lead me away from my God;
Let fire and deluge come in agreement,
Let water and great earth go as one,
I shall be the happiest man,
  My Jesus is yet alive.

                - - - - -

See, here is the love which is now,
Beating all loves down, -
Swallowing the base names of the earth,
  All in his own name:
Some passionate, firm, strong flame!
O fire was ignited in heaven,
Eternal love it is;
  It made God and me as one.

I must get some quantity of the grapes
Which are precious and very sweet,
Springing from the full vine
  Which was pressed on the cross;
There is nothing shall keep my weak soul,
Climbing up the steep rocks,
But feeling that I experience a portion
  From the divine throes of death.
tr. 2015,18 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~